SiaradBusnes.com
Yn annog defnydd o’r Gymraeg yn y byd busnes

Main menu:


Siopwch yn Gymraeg!

Bob tro y byddwch yn mynnu defnyddio’r Gymraeg wrth i chi siopa, rydych yn helpu creu swyddi i siaradwyr Cymraeg.

Bob tro y byddwch yn gofyn am siarad Cymraeg mewn busnes, rydych yn helpu
cryfhau’r economi Cymraeg.

Ond, wrth gwrs, nid yw’n hawdd mynnu gwasanaeth Cymraeg bob tro.

Mae pawb yn frysur - pawb angen cael pethau wedi’u gwneud, a symud ymlaen.

Oherwydd hynny, mae llawer iawn ohonom ni yn methu dweud y byddai well gynnon ni
siarad Cymraeg - rydym yn gwybod y bydd hynny yn golygu aros neu gwyno neu gael ein sarhau.

Eto i gyd, trwy beidio rydym wedi helpu creu sefyllfa lle mae gormod o fusnesau yng
Nghymru yn diystyru’r Gymraeg.

Rwan, mae ffordd o gwmpas y broblem hon - sydd yn cymryd fawr ddim o’ch amser, ond yn cael effaith pwerus iawn.

Anfon cerdyn post Business-in-Wales.com

Os ydych yn ymweld â busnes sydd heb arwyddion Cymraeg, neu sydd gyda gweithwyr
sydd ddim yn medru’r Gymraeg, gwnewch nodyn o gyfeiriad post y busnes.

Wedyn, wrth gyrraedd adref, rhowch gerdyn post Business-in-Wales.com yn y post. Mor syml â hynny! Nid ydych yn colli dim amser o gwbl, ond rydych yn gwneud safiad bydd yn helpu cryfhau’r economi Cymraeg ac felly dyfodol yr iaith ei hun…:-)

Sut mae cael cardiau post Business-in-Wales.com?

Y cwbl sydd angen ydy i chi lenwi’r FFURFLEN HWN (gan ddewis cyfrannu £3 y mis neu fwy at y costau o ddarparu’r cardiau a’r stampiau) a bydd 12 cerdyn Business-in-Wales.com yn eich cyrraedd pob mis, ynghyd â gwybodaeth am nosweithiau arbennig lle trefnir adloniant ar gyfer unrhyw un sy’n fodlon treulio awr yn anfon cardiau at ein rhestr ni o fusnesau, a hynny mewn awyrgylch hwyliog a braf mewn tafarn lleol…:-)

Cewch fwynhau, arbed amser a gwybod ar yr un pryd eich bod yn sicrhau dyfodol llawer iawn mwy llewyrchus i’r Gymraeg yn y siopau rydym i gyd yn eu defnyddio pob dydd.

Ymlaen!…

Cliciwch YMA i lenwi’r ffurflen rwan hyn…:-)